Taith gerdded dywys am ddim. 26 Mawrth 11yb. Cyfarfod yn y Ganolfan Ymwelwyr am daith gerdded 1.5 awr lle byddwch yn dysgu am fywyd gwyllt a hanes diddorol y warchodfa.
Mae un tocyn/cerdyn crafu’r Loteri Genedlaethol yn caniatáu’r deilydd i daith gerdded dywysedig am ddim ar 26 Mawrth am 11yb 2022.
Tarwch olwg ar wefan yr RSPB https://www.rspb.org.uk/southstack i weld oriau agor y safle ac unrhyw gyfyngiadau o ran mynediad.
Mae modd defnyddio holl docynnau’r Loteri Genedlaethol ar gyfer y cynnig hwn, yn cynnwys tocynnau o unrhyw gêm neu Gardiau Crafu’r Loteri Genedlaethol. Nid oes gwahaniaeth beth yw dyddiad y gêm na’r dyddiad prynu ar y tocyn.
Rhaid dangos tocyn Loteri Genedlaethol neu brawf eich bod yn chwarae (copi caled neu ddigidol) er mwyn derbyn y cynnig.
Nid oes modd defnyddio'r cynnig hwn gydag unrhyw gynnig arall ac ni roddir arian yn gyfnewid am y gost.
Nid yw’r cynnig hwn yn ddilys ar gyfer unrhyw ddigwyddiad arbennig yn y warchodfa lle mae’n rhaid talu ffi ychwanegol i fynychu.
Ceidw’r RSPB yr hawl i wrthod mynediad i’r warchodfa os bydd y lle’n llawn, o ganlyniad i unrhyw amgylchiadau annisgwyl, am resymau y tu hwnt i reolaeth yr RSPB, neu ar ddisgresiwn yr RSPB am unrhyw reswm arall.
Gellir defnyddio tocyn y Loteri Genedlaethol unwaith fesul safle yn ystod y cyfnod dan sylw.
Rhaid i bob plentyn o dan 18 oed fod yng nghwmni oedolyn.
Gofynnir i bawb gydymffurfio â chanllawiau, codau a pholisïau’r RSPB pan fyddant yn ymweld â safle.
Nid yw’r RSPB yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw golledion a wynebir o ganlyniad i gymryd rhan yn y cynnig neu’n ymwneud â gwrthod mynediad ar yr amod na fydd unrhyw beth yn eithrio neu’n cyfyngu atebolrwydd yr RSPB am dwyll, marwolaeth neu anaf personol yn deillio o esgeulustod yr RSPB, neu unrhyw atebolrwydd arall i’r graddau nad yw’r atebolrwydd hwnnw’n cael ei eithrio neu ei gyfyngu gan y gyfraith.
Hyrwyddwr: Mae’r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (yr RSPB) yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, rhif 207076 ac yn yr Alban, rhif SC037654 a’i chyfeiriad cofrestredig yw The Lodge, Sandy, Sir Bedford SG19 2DL.