Join & Donate RSPB home page Reserve information Get involved Events by region Scotland Northern Ireland Northern England The Midlands Cymru/Wales Eastern England South East England South West England Browse all events

Teithiau cerdded i chwilio am droellwyr mawr yng Nghoedwig Llandegla

Manylion

Ymunwch â ni i weld y rhywogaethau nosol anhygoel sy’n dod o Affrica i fridio bob gwanwyn. Mae’r troellwyr mawr yn adar nosol a gellir eu gweld yn chwilio am fwyd yn y cyfnos a’r wawr. Gydag adenydd pigfain a chynffon hir, mae eu siâp yn debyg i'r cudyll coch neu i’r gog. Mae eu plu yn llwyd-frown, yn frith ac yn rhesog, ac mae’n cynnig cuddliw delfrydol yn ystod y dydd. Maent bron fel rhywogaeth goruwchnaturiol, gyda’u hediad tawel a’u gallu mytholegol i ddwyn llaeth gan eifr. Fel arfer, yr arwydd cyntaf bod troellwr mawr gerllaw yw cân droelli y gwryw, sy’n codi ac yn disgyn gyda thôn dafleisiol. 

Sylwer:

Mae’r digwyddiad hwn yn cynnwys taith gerdded tua 3 milltir ac felly mae angen rhywfaint o ffitrwydd corfforol. I ddechrau, mae angen cerdded tua 1.25 milltir cyn cyrraedd cynefin addas. Yn anffodus, nid yw’r daith yn addas ar gyfer pobl sy’n defnyddio cadair olwyn, pobl â phroblemau symudedd na pobl â phramiau.

Bydd y digwyddiad hwn yn gorffen yn y tywyllwch, felly mae’n syniad da i ddod â thortsh pŵer isel a chynnyrch ymlid pryfed. 

Bydd y daith yn dechrau am 8.30pm felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cyrraedd 15 munud ymlaen llaw. Bydd y cerddwyr yn cwrdd yng Nghaffi OnePlanet.  Os hoffech chi ymuno â barbeciw'r caffi cyn i chi fynd am dro, dylech gyrraedd erbyn 7pm fan bellaf.

Rhaid archebu lle: dim ond lle i 15 sydd ar gael ar gyfer pob taith gerdded, felly bydd angen i chi archebu eich lle. Bydd angen i bobl sydd ddim yn aelodau o’r RSPB dalu £13, bydd aelodau’n talu £10.50, a bydd plant yn talu £6.50 (mae plant dan 6 oed am ddim). Mae ein prisiau fesul person ac ar gyfer un diwrnod yn unig. Mae’r pris yn cynnwys ffi archebu o 50c. 

Oes gennych chi gwestiynau o hyd?

Cysylltwch â ni yn cymru@rspb.org.uk.

Darllenwch Delerau ac Amodau Coedwig Llandegla yma cyn archebu eich lle. Mae’r rhain yn disodli ein Telerau ac Amodau Cyffredinol ar gyfer Digwyddiadau mewn Gwarchodfa.

Mae’r digwyddiad hwn wedi cael ei gyflwyno i chi mewn partneriaeth â Tilhill ac Antur Oneplanet.

Terms & conditions Cookie policy Privacy policy Charter and Statutes Modern Slavery Act