Dewch i ddathlu Diwrnod y Dolydd yn RSPB Llyn Efyrnwy ar 2ail o Orffennaf. Wedi'i ariannu gan raglen "Haf o Hwyl" Cyngor Sir Powys ac wedi'i chefnogi gan y gymuned leol, rydym yn cynnig diwrnod allan am ddim i chi a'ch teulu i fwynhau harddwch a natur Llyn Efyrnwy. Cewch chi hyd yn oed cinio am ddim!
Bydd y bore yn cael ei dreulio yn archwilio un o ddolydd hollol syfrdanol Llyn Efyrnwy. Dan arweiniad ein warden arbenigol, byddwch yn dysgu pwysigrwydd gwarchod ein cynefin naturiol wrth i chi gael eich tywys drwy'r planhigion, pryfed a bywyd gwyllt hardd niferus, sydd yn dibynnu ar ein dolydd iach i oroesi a ffynnu.
Yna byddwch yn dychwelyd i'r argae i gasglu eich picnic, a ddarperir gan Dafarn Newydd, y siop yn y pentref. Ewch â'ch picnic i'r ynys o dan yr argae i'w fwynhau wrth wylio drama fer, wedi'i chynhyrchu a'i pherfformio gan Grŵp Theatr Masquerade mewn cydweithrediad â Mencap a Designs in Mind.
Plîs archebwch yn gynnar. Fydd y digwyddiad yma am ddim ac o ganlyniad, fydd yr argaeledd yn gyfyngedig.