Join & Donate RSPB home page Reserve information Get involved Events by region Scotland Northern Ireland Northern England The Midlands Cymru/Wales Eastern England South East England South West England Browse all events

Gwenyn i ddechreuwyr yng Ngwlyptiroedd Casnewydd

Yma yng Ngwlyptiroedd Casnewydd rydym yn gartref i amrywiaeth wych o wenyn gan gynnwys yr wyth rhywogaeth gyffredin a dau o rai arbennig iawn! Dewch ar ein taith dywys lle byddwch yn dysgu am y rhywogaethau hyn; sut i'w hadnabod, cylch bywyd gwenyn, ei hanes a'r gwaith cadwraeth sy'n cael ei wneud i gynnal a gwella niferoedd. Dyma gyfle anhygoel i dreiddio i fyd y gwenyn a dysgu oddi wrth ddau dywysydd gwybodus iawn.

 

Mae'r digwyddiad hwn yn ddwy awr o hyd a bydd yn cynnwys cyflwyniad 15-20 munud. Cofiwch wisgo dillad ac esgidiau addas. Argymhellir het, eli haul a dŵr. Yn dibynnu ar y tywydd, efallai y bydd rhaid i ni ohirio'r digwyddiad. Yn yr achos hwn rhoddir ad-daliad llawn neu'r dewis i chi archebu lle ar ddyddiad newydd. Bydd yr holl offer yn cael eu darparu.

 

Mae'r digwyddiad hwn yn gwbl hygyrch, mae'r elfen gerdded tua milltir a hanner. Mae gennym sgwteri symudedd ar gael i'w llogi am ddim ac y gellir eu defnyddio ar y digwyddiad. Ffoniwch y ganolfan ar 01633 636363 os hoffech archebu un ar gyfer y digwyddiad hwn. Mae'n ddrwg gennym, ni chaniateir cŵn ar y digwyddiad hwn.

Terms & conditions Cookie policy Privacy policy Charter and Statutes Modern Slavery Act