Join & Donate RSPB home page Reserve information Get involved Events by region Scotland Northern Ireland Northern England The Midlands Cymru/Wales Eastern England South East England South West England Browse all events

Crwydro gwely cyrs a brecwast yng Ngwlyptiroedd Casnewydd

Dyma gyfle perffaith i ddod i adnabod rhywogaethau sy'n caru gwelyau cyrs. O'r teloriaid i aderyn y bwn, gwas y neidr a'r titw barfog, maen nhw i gyd wrth eu bodd yn cuddio yn y cyrs.  Dyma’r adeg gorau o'r flwyddyn i ddarganfod amrywiaeth eang o rywogaethau gan fod ymfudwyr wedi gwneud eu ffordd yn ôl i fridio ac ymuno â'r rhywogaeth breswyl. Gwrandewch am deloriaid cetti a’r llwydfron – mae’n ddigwyddiad na ddylid ei golli.

Mwynhewch daith dywys dwy awr o amgylch tirwedd syfrdanol Gwarchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptiroedd Casnewydd, a chael cipolwg ar gyfrinachau’r safle a’r cyfan sydd ganddo i’w gynnig. Byddwn yn cadw llygad am bob math o rywogaethau felly peidiwch ag anghofio eich sbienddrych.

Cyrhaeddwch yn fuan am 9:30yb os gwelwch yn dda gan y byddwn yn mwynhau diod poeth a brecwast. Mae’r opsiynau’n cynnwys un o’n prydau arbennig - baguette selsig poeth Morgannwg. Bydd dewis arall o gig neu figan ar gael hefyd. Byddwn yn cysylltu â chi am eich dewisiadau yn fuan ar ôl i chi archebu.

Mae'r digwyddiad hwn yn gwbl hygyrch ac mae sgwteri symudedd trydan yn rhad ac am ddim i'w llogi. Ni chaniateir cŵn ar y digwyddiad hwn, a bydd angen tocyn maes parcio arnoch i adael. Am ddim i aelodau'r RSPB, £4 i'r rhai nad ydynt yn aelodau.

Bydd ein caffi a siop ar agor ar ôl dychwelyd i'r ganolfan ymwelwyr ar gyfer danteithion amser cinio.

Terms & conditions Cookie policy Privacy policy Charter and Statutes Modern Slavery Act