Mae’r ddôl o flodau gwyllt yn y warchodfa’n llawn o bob math o bryfed ac mae rhwydi sgubo yn ffordd hwyliog o gael golwg agos ar y creaduriaid hyfryd hyn.
Byddwn yn dechrau trwy rannu rhai ffeithiau am drychfilod a chael cwis. Bydd hefyd cyfle i chi wneud eich gwas y neidr eich hun i fynd adref gyda chi cyn mynd i'r warchodfa i weld beth allwn ni ddarganfod yn y rhwydi sgubo.
Byddwn yn treulio rhyw awr mewn glaswellt hir a blodau gwyllt ac felly efallai na fydd y digwyddiad hwn yn addas ar gyfer y rhai sydd â chlefyd y gwair.
Mae hwn yn ddigwyddiad teuluol tua 1.5 awr o hyd. Mae tocynnau plant yn cynnwys un oedolyn am ddim a rhaid i bob plentyn fod yng nghwmni oedolyn. Gellir prynu tocynnau oedolion ychwanegol yn amodol ar argaeledd.
Beth am wneud diwrnod ohoni a chael ychydig o ginio yn y caffi neu'r ardal bicnic. Mae'n ddrwg gennym ni chaniateir cŵn ar y digwyddiad hwn.