Dewch i drolli pwll gyda ni! Rydym yn cynnig profiad rhad ac am ddim, wedi cael ei ariannu gan raglen ‘Haf o Hwyl’ cyngor sir Powys i deuluoedd. Dewch â’ch plant i gloddio pryfaid bach o’r dŵr. Gyda’n help, byddech yn gallu archwilio ac adnabod beth rydych wedi darganfod. Byddech yn dysgu am yr amrywiaeth eang o fywyd yn y dŵr a’r pwysigrwydd o gadw ein dyfrffyrdd yn lân ac yn iach. Cynghorir esgidiau glaw neu wellies a gwisgwch yn addas i’r tywydd ar y diwrnod os gwelwch yn dda.