Join & Donate RSPB home page Reserve information Get involved Events by region Scotland Northern Ireland Northern England The Midlands Cymru/Wales Eastern England South East England South West England Browse all events

Taith Gerdded Bywyd Gwyllt RSPB Ynys Lawd

Ymunwch ag un o’n gwirfoddolwyr profiadol am daith dywys ar draws y warchodfa i weld yr amrywiaeth o fywyd gwyllt o adar I’r pilia pala sy’n galw Ynys Lawd yn gartref yr adeg hon o’r flwyddyn.

Sylwch fod y digwyddiad yn dibynnu ar y tywydd.

Cwestiynau Cyffredin

Beth ddylwn i ddod i'r digwyddiad?

Dylid gwisgo dillad ac esgidiau awyr agored addas. Dewch â diod a/neu fyrbryd gyda chi ar gyfer y daith gerdded. Bydd y caffi hefyd ar agor os ydych chi eisiau diod boeth neu oer a thamaid i'w fwyta wedyn. Rydym hefyd yn argymell dod â'ch sbienddrych eich hun os oes gennych rai, fodd bynnag rydym hefyd yn eu llogi allan o'r siop.

Beth yw’r oedran lleiaf ar gyfer y digwyddiad?

Oherwydd hyd y teithiau cerdded, nid ydym yn eu hargymell ar gyfer plant dan 8 oed. Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn bob amser.

Pa leoedd parcio a chyfleusterau sydd ar gael yn y warchodfa?

Yma yn RSPB Ynys Lawd mae gennym dri maes parcio ar wahân, gyda pheiriant tocynnau ym mhob un. Mae raciau beiciau ar gael yn y Ganolfan Ymwelwyr yn ogystal â chaffi, toiledau a chyfleusterau newid babanod. Mae parcio yn £2 yr awr, neu £5 y dydd.  Mae parcio am ddim i Aelodau’r RSPB. Os ydych yn aelod, a allwch arddangos eich cerdyn aelodaeth.

A ganiateir cŵn ar y daith gerdded?

Caniateir cŵn sy’n ymddwyn yn dda ar y daith gerdded, ond rhaid eu cadw ar dennyn byr bob amser.

Polisi ad-daliad.

Weithiau y mae angen i ni ganslo'r digwyddiad, ond er hyn byddwn yn rhoi ad-daliad llawn i chi. Pe baech yn dymuno canslo, rhoddir ad-daliad llawn os byddwn yn derbyn tri diwrnod o rybudd neu fwy. I ganslo, ffoniwch ni ar 01407 762 100.

Tocynau.

Ar ôl cyrraedd y Ganolfan Ymwelwyr bydd angen i chi ddangos naill ai eich e-bost cadarnhau neu docyn wedi'i argraffu os gwelwch yn dda. Dylai aelodau'r RSPB ddod â'u cardiau aelodaeth gyda nhw hefyd.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, anfonwch e-bost atom yn south.stack@rspb.org.uk neu ffoniwch ni ar 01407 762 100.

Terms & conditions Cookie policy Privacy policy Charter and Statutes Modern Slavery Act