Dewch i ddarganfod byd o blanhigion a phryfed yng ngwlyptiroedd Casnewydd. Dewch o hyd i lwyth o flodau gwyllt gwahanol a darganfod pa chwilod a gwenyn sy’n hoffi bwydo arnyn nhw. Adeiladwch eich teclyn bwydo gloÿnnod byw eich hun i fynd adref chi gyda chi a denu pentwr o loÿnnod byw gwahanol i'ch gardd.
Byddwn yn treulio rhyw awr mewn glaswellt hir a blodau gwyllt ac felly efallai na fydd y digwyddiad hwn yn addas i’r rheini sydd â chlwy’r gwair.
Mae hwn yn ddigwyddiad i deuluoedd sy’n para tua awr. Mae tocynnau i blant yn cynnwys 1 tocyn oedolyn am ddim a rhaid i oedolyn fod gyda’r plant. Mae modd prynu tocynnau ychwanegol i oedolion os bydd rhai ar gael.
Beth am gael diwrnod i’r brenin a chael cinio yn y caffi neu’r ardal bicnic. Yn anffodus, dydy cŵn ddim yn cael dod i’r digwyddiad hwn.