Join & Donate RSPB home page Reserve information Get involved Events by region Scotland Northern Ireland Northern England The Midlands Cymru/Wales Eastern England South East England South West England Browse all events

Yogi Duck and the Little Chick - storytelling event

Rydym wrth ein bodd o gael cyflwyno digwyddiad unigryw a newydd sbon yng Ngwlyptiroedd Casnewydd am stori a ysgrifennwyd yn arbennig ar ein cyfer gan yr artist lleol Isabel Benavides. Bydd y llyfr o'r enw ‘Yogi Duck and the Little Chick’, yn adrodd stori anturiaethau cyw iâr fach y dŵr. Yn ogystal â dod i adnabod rhai cymeriadau gwych, thema’r stori yw ymwybyddiaeth ofalgar a thawelwch … ac ymgolli’n hunain yn hyfrydwch byd natur.

Yn addas ar gyfer plant iau byddwn yn adrodd y stori mewn man tawel ar y warchodfa ac yna’n cael hwyl yn gwneud gweithgareddau sy’n cyd-fynd â’r llyfr.

Ar ôl y digwyddiad beth am fynd am dro i weld a allwch chi weld unrhyw un o gymeriadau'r llyfr. Neu arhoswch yn y caffi am ginio lle gallwch weld hwyaden Yogi neu gyw bach go iawn ar y pwll!

Bydd y digwyddiad yn awr o hyd, ac mae tocyn pob plentyn yn cynnwys oedolyn am ddim. Gellir prynu tocynnau oedolion ychwanegol ar wahân. Ni chaniateir cŵn ar y digwyddiad yma. Codir tâl maes parcio o £4 - gellir ei brynu ar y diwrnod (am ddim i aelodau'r RSPB).

 

Terms & conditions Cookie policy Privacy policy Charter and Statutes Modern Slavery Act