'Adar môr dan y golau'.
Fel rhan o Wythnos Awyr Dywyll Cymru, bydd y sgwrs hon gan ecolegydd lleol a ffotograffydd bywyd gwyllt Ben Porter yn canolbwyntio ar bwnc llygredd golau a’i effeithiau ar adar môr y nos. Bydd yn ymchwilio mewn i'r ecoleg hynod o ddiddorol gwahanol rhywogaethau adar môr sydd wedi'u haddasu ar gyfer bywyd dan orchudd tywyllwch, a pham mae golau artiffisial adeg y nos yn broblem fawr i adar môr ledled y byd.'