Join & Donate RSPB home page Reserve information Get involved Events by region Scotland Northern Ireland Northern England The Midlands Cymru/Wales Eastern England South East England South West England Browse all events

Taith Gerdded Braslunio

Ydych chi'n barod am daith greadigol ar draws y warchodfa? Wel, mae gennym brofiad gwych i chi yma yn RSPB Ynys Lawd.

Bydd Lora, aelod o’r tîm yn ogystal ag artist dawnus gyda gradd mewn darlunio yn eich arwain ar antur ysbrydoledig a chreadigol i galon tirwedd Ynys Lawd. Dim ots os ydych yn artist profiadol, neu’n rhywun sydd newydd ddechrau arni, byddwn yn teilwra’r profiad i’ch siwtio chi. Byddwn yn canolbwyntio ar y dirwedd o'n cwmpas, ond pe bai'r tywydd yn cymryd tro byddwn yn mentro yn ôl i'r ganolfan ymwelwyr lle byddwn yn canolbwyntio ar ddarlunio rhai o'r rhywogaethau sy'n galw Ynys Lawd yn gartref.

Cwestiynau Cyffredin  

Beth ddylwn i ddod i'r digwyddiad? 
Dylid gwisgo dillad ac esgidiau awyr agored addas. Bydd y caffi ar agor os ydych chi eisiau diod boeth neu oer a thamaid i'w fwyta.  

Beth yw’r oedran lleiaf ar gyfer y digwyddiad? 
Oherwydd hyd y teithiau cerdded, nid ydym yn eu hargymell ar gyfer plant dan 6 oed.  

Pa leoedd parcio a chyfleusterau sydd ar gael yn y warchodfa? 
Yma yn RSPB Ynys Lawd mae gennym dri maes parcio ar wahân, gyda pheiriant tocynnau ym mhob un. Mae raciau beiciau ar gael yn y Ganolfan Ymwelwyr yn ogystal â chaffi, toiledau a chyfleusterau newid babanod. arddangos eich cerdyn aelodaeth.  

A ganiateir cŵn ar y daith gerdded? 
Oherwydd natur y digwyddiad ni chaniateir cŵn.  

Polisi ad-daliad. 
Weithiau y mae angen i ni ganslo'r digwyddiad, ond er hyn byddwn yn rhoi ad-daliad llawn i chi. Pe baech yn dymuno canslo, rhoddir ad-daliad llawn os byddwn yn derbyn tri diwrnod o rybudd neu fwy. I ganslo, ffoniwch ni ar 01407 762 100.  

Tocynau. 
Ar ôl cyrraedd y Ganolfan Ymwelwyr bydd angen i chi ddangos naill ai eich e-bost cadarnhau neu docyn wedi'i argraffu os gwelwch yn dda. Dylai aelodau'r RSPB ddod â'u cardiau aelodaeth gyda nhw hefyd.  

Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, anfonwch e-bost atom yn south.stack@rspb.org.uk neu ffoniwch ni ar 01407 762 100.

Terms & conditions Cookie policy Privacy policy Charter and Statutes Modern Slavery Act