Wrth i’r haul godi beth am ymuno â ni am brofiad bywyd gwyllt arbennig i glywed miwsig hudolus côr y bore bach Gwlyptiroedd Casnewydd. Bydd y sioe gerdd hon yn cynnwys nid yn unig adar cyfarwydd yr ardd ond hefyd rhai o’n rhywogaeth arbennig. Gwrandewch am aderyn y bwn neu galwad y gog a chlywed y gwahaniaeth rhwng telor y cyrs a bras y cyrs… mae’n werth codi’n gynnar!
Dyma gyfle i ymweld â’r warchodfa cyn i unrhyw un arall gyrraedd a chael blas ar gân adar y gwanwyn. Bydd ein tywyswyr wrth law i’ch helpu i ganfod bywyd gwyllt ar hyd y daith unigryw hon. Pa ffordd well o ddathlu diwrnod rhyngwladol côr y bore bach. Byddwn yn cyfarfod am 5:00yb i wneud yn siŵr nad ydym yn colli dim. Bydd y daith yn cymryd tua 2 awr a bydd toiledau ar gael cyn ac ar ôl y daith.
Gwisgwch ddillad cynnes ac esgidiau addas. Mae'n werth dod ag sbienddrych os oes gennych un, os ddim yna bydd gennym rai i'w llogi ar y diwrnod. Ni chaniateir cŵn ar y daith gerdded hon. Pan gyrhaeddwn yn ôl gallwch gynhesu gyda diod boeth a chael cyfle i ofyn unrhyw gwestiynau i'n harweinwyr arbenigol.