Mae llwybr Pasg Gwlyptiroedd Casnewydd yn helfa wyau go wahanol. Dewch i gwrdd â Gwen yr wŷdd a helpu i ddod o hyd i'w wyau coll. Ar hyd y daith bydd gweithgareddau a phosau i’w cwblhau a cyfle i ddysgu am greaduriaid y gwlyptir sy’n gwneud eu cartref yn y warchodfa arbennig hon.
Nid oes angen archebu lle, mae’r llwybr ar gael 10yb – 4yp bob dydd o giosg y ganolfan ymwelwyr. Byddwch yn derbyn llyfryn gweithgaredd a'ch mwgwd Gwen y gŵydd eich hun! Codir tâl o £2.50 am bob pecyn llwybr.
Mae’r llwybr yn addas ar gyfer bygis a chadeiriau gwthio. Ni chaniateir cŵn, ac eithrio cŵn cymorth, ar y llwybr hwn.
Maes parcio 9yb – 5yp gyda thâl o £4 i rai nad ydynt yn aelodau, am ddim i aelodau’r RSPB.
Caffi 10yb – 4yp
Siop 10yb – 4:30yp
Toiledau 9yb – 5yp