Mae ein clwb misol ar gyfer pobl ifanc sy'n dwlu ar fyd natur yn ôl!
Ymunwch â ni bob mis ar gyfer pob math o weithgareddau sy'n ymwneud â natur. Dewch i ymuno âni ar gyfer ein sesiwn grefftau Pasg ac yna helfa drysor o amgylch y warchodfa.
Angen bwcio. Digwyddiad plentyn yn unig yw hwn.
Cofiwch gyrraedd gyda’ch plentyn am 10.15yb i’w gollwng, a dychwelyd yn barod i’w casglu’n brydlon pan ddaw’r sesiwn i ben am 12.15yp. Rhaid i riant/gwarcheidwad fod yn bresennol wrth ollwng plentyn, er mwyn llenwi’r ffurflenni caniatâd a meddygol perthnasol wrth gyrraedd.
Mae gennym gaffi hyfryd, pe bai unrhyw rieni neu warcheidwaid yn dymuno aros ar y safle am gyfnod y sesiwn. Fodd bynnag, byddwch yn ymwybodol y bydd ffioedd mynediad arferol yn berthnasol os hoffech gerdded y llwybrau ymwelwyr tra'n aros am eich plentyn. Dysgwch fwy am RSPB Conwy, gan gynnwys ffioedd mynediad a chyfleusterau yma.