Join & Donate RSPB home page Reserve information Get involved Events by region Scotland Northern Ireland Northern England The Midlands Cymru/Wales Eastern England South East England South West England Browse all events

Clwb Fforwyr Bywyd Gwyllt (8-12 oed)

Mae ein clwb misol ar gyfer pobl ifanc sy'n dwlu ar fyd natur yn ôl!

Ymunwch â ni bob mis ar gyfer pob math o weithgareddau sy'n ymwneud â natur. Dewch i ymuno âni ar gyfer ein sesiwn grefftau Pasg ac yna helfa drysor o amgylch y warchodfa.

Angen bwcio. Digwyddiad plentyn yn unig yw hwn.

Cofiwch gyrraedd gyda’ch plentyn am 10.15yb i’w gollwng, a dychwelyd yn barod i’w casglu’n brydlon pan ddaw’r sesiwn i ben am 12.15yp. Rhaid i riant/gwarcheidwad fod yn bresennol wrth ollwng plentyn, er mwyn llenwi’r ffurflenni caniatâd a meddygol perthnasol wrth gyrraedd.

Mae gennym gaffi hyfryd, pe bai unrhyw rieni neu warcheidwaid yn dymuno aros ar y safle am gyfnod y sesiwn. Fodd bynnag, byddwch yn ymwybodol y bydd ffioedd mynediad arferol yn berthnasol os hoffech gerdded y llwybrau ymwelwyr tra'n aros am eich plentyn. Dysgwch fwy am RSPB Conwy, gan gynnwys ffioedd mynediad a chyfleusterau yma.

Terms & conditions Cookie policy Privacy policy Charter and Statutes Modern Slavery Act