Join & Donate RSPB home page Reserve information Get involved Events by region Scotland Northern Ireland Northern England The Midlands Cymru/Wales Eastern England South East England South West England Browse all events

Chwilota

Ymunwch â ni gyda Jules Cooper o "Spirit of the Hedgerider" i ddysgu am planhigion bwytadwy defnyddiol, meddyginiaethol a gwyllt mewn lleoliad hyfryd yn RSPB Ynys Lawd!

Cwestiynau Cyffredin - Beth ddylwn i ddod i'r digwyddiad? Dylid gwisgo dillad ac esgidiau awyr agored addas. Dewch â diod os dymunwch. Bydd y caffi hefyd ar agor os ydych chi eisiau diod boeth neu oer a teisen i'w fwyta wedyn. Rydym hefyd yn argymell dod â'ch sbienddrych eich hun os oes gennych rai, fodd bynnag rydym hefyd yn eu llogi allan o'r siop. Pa leoedd parcio a chyfleusterau sydd ar gael yn y warchodfa? Mae gennym dri maes parcio ar wahân, gyda pheiriant tocynnau ym mhob un. Mae raciau beiciau ar gael yn y Ganolfan Ymwelwyr yn ogystal â chaffi, toiledau a chyfleusterau newid babanod. Mae parcio yn £2.50 yr awr, neu £6.00 y dydd.  Mae parcio am ddim i aelodau’r RSPB. Os ydych yn aelod, a allwch arddangos eich cerdyn aelodaeth. A ganiateir cŵn?Caniateir cŵn sy’n ymddwyn yn dda, ond rhaid eu cadw ar dennyn byr bob amser.Polisi ad-daliad.Weithiau y mae angen i ni ganslo'r digwyddiad, ond er hyn byddwn yn rhoi ad-daliad llawn i chi. Pe baech yn dymuno canslo, rhoddir ad-daliad llawn os byddwn yn derbyn tri diwrnod o rybudd neu fwy. I ganslo, ffoniwch ni ar 01407 762 100.Tocynau.Ar ôl cyrraedd y Ganolfan Ymwelwyr bydd angen i chi ddangos naill ai eich e-bost cadarnhau neu docyn wedi'i argraffu os gwelwch yn dda. Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, anfonwch e-bost atom yn south.stack@rspb.org.uk neu ffoniwch ni ar 01407 762 100.

Terms & conditions Cookie policy Privacy policy Charter and Statutes Modern Slavery Act