Join & Donate RSPB home page Reserve information Get involved Events by region Scotland Northern Ireland Northern England The Midlands Cymru/Wales Eastern England South East England South West England Browse all events

Taith Gerdded Dywys ‘Corws y Wawr’ yng Nghoedwig Llandegla

Gwybodaeth: Deffrwch i sain y gwanwyn a darganfod cyngerdd mawr corws y wawr.  Bydd ein gwirfoddolwyr yn eich arwain ar daith drwy’r goedwig i ddysgu mwy am wylio adar, adnabod adar, a’r bywyd gwyllt sy’n byw yng Nghoed Llandegla. Cewch awgrymiadau a chyngor defnyddiol i fagu eich hyder.

Rhaid archebu lle: dim ond lle i 15 sydd ar gael ar gyfer pob taith gerdded, felly bydd angen i chi archebu eich lle. Pobl nad ydyn nhw’n aelodau o RSPB £13.50, aelodau £11.00, plant £7.00 (mae plant dan 6 oed am ddim). Mae ein prisiau fesul person ac ar gyfer un diwrnod yn unig.

Pryd allwch chi ein gweld ni? Bydd angen i chi osod cloc eich larwm.  Bydd teithiau tywys yn dechrau am 5.30am. Bydd parcio cyffredinol ar gael yng Nghoedwig Coed Llandegla ac ni chodir ffioedd parcio y tu allan i oriau agor y maes parcio.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyrraedd o leiaf 15 munud cyn amser dechrau’r digwyddiad. Bydd y cerddwyr yn cwrdd y tu allan i Gaffi OnePlanet.

Mae’r digwyddiad hwn yn cynnwys taith gerdded tua 3 milltir ac felly mae angen rhywfaint o ffitrwydd corfforol. Yn anffodus, nid yw’r daith yn addas ar gyfer pobl sy’n defnyddio cadair olwyn, pobl â phroblemau symudedd na pobl â phramiau.

Beth sydd ar y safle? Pan fyddwch yn dychwelyd o’ch taith dywys, beth am alw heibio i’r ganolfan ymwelwyr am ddiodydd poeth a brecwast wedi’i goginio’n ffres – efallai ei bod yn werth nodi bod Caffi Antur OnePlanet wedi ennill sawl gwobr am eu brecwast!

Beth ddylwn i ddod gyda mi? Dylech wisgo dillad ac esgidiau addas ar gyfer yr awyr agored. Dewch â diod a/neu fyrbryd gyda chi ar gyfer y daith. Rydyn ni hefyd yn argymell dod â’ch binocwlars eich hun.

Oes gennych chi gwestiynau o hyd? Cysylltwch â ni yn cymru@rspb.org.uk.

Darllenwch Delerau ac Amodau Coedwig Llandegla yma cyn archebu eich lle. Mae’r rhain yn disodli ein Telerau ac Amodau Cyffredinol ar gyfer Digwyddiadau mewn Gwarchodfa.

Mae’r digwyddiad hwn wedi cael ei gyflwyno i chi mewn partneriaeth â Tilhill ac Antur Oneplanet.

Terms & conditions Cookie policy Privacy policy Charter and Statutes Modern Slavery Act