Dewch i ddarganfod bywyd tanddwr Gwlyptiroedd Casnewydd. Bydd ein tîm gwybodus wrth law i’ch helpu i adnabod a sicrhau eich bod yn cael profiad gwych o chwilota mewn pyllau! Byddwch yn cael mynediad unigryw i’n man trochi yn y pwll a’ch cyfarpar eich hun a’ch taflenni gwylio i’ch helpu i wybod pa greaduriaid rydych chi’n eu dal. Mae’n addas ar gyfer plant 4 oed a hŷn ac mae’n rhaid iddynt fod yng nghwmni oedolyn. Bydd yr holl gyfarpar yn cael ei ddiheintio cyn ac ar ôl i chi ei ddefnyddio a chi fydd ei biau drwy gydol y sesiwn.