Ymunwch â'n tywyswyr brwdfrydig a gwybodus am awr a hanner yn cerdded o amgylch gwarchodfa natur genedlaethol Gwlyptiroedd Casnewydd, gan archwilio'r cynefinoedd a'r amrywiaeth bwysig o fywyd gwyllt sy'n byw yma. Mae'r teithiau cerdded hyn wedi'u teilwra i'ch diddordebau a'ch hobïau. P'un a ydych chi'n edrych i wella eich sgiliau adnabod adar, dysgu am hanes eithriadol y warchodfa, gwella eich gwybodaeth am sut mae adar yn cyfathrebu, neu am wella eich sgiliau ffotograffiaeth yng nghwmni ffotograffydd gwych – mae gennym y tywyswr i chi.
Os oes gennych ddiddordeb penodol anfonwch e-bost i Newport-wetlands@RSPB.org.uk a byddwn yn gwneud ein gorau i deilwra'r digwyddiad ar eich cyfer chi.
Os nad yw ein hamseroedd yn hollol addas ar eich cyfer, anfonwch e-bost atom a byddwn yn fwy na pharod i drefnu taith gerdded ar amser gwahanol yn ystod y dydd.
Mae'r teithiau cerdded hyn yn berffaith ar gyfer teulu neu grŵp o 4 - 5 o bobl sydd eisiau dysgu wrth fwynhau eu taith gerdded.
Cofiwch gadw llygad ar ragolygon y tywydd a dod â esgidiau glaw, dillad gwrth-ddŵr a dillad cynnes. Bydd ein caffi ar agor i chi fwynhau ein brechdanau cartref a diodydd poeth cyn neu ar ôl eich antur.
Mae gwlyptiroedd Casnewydd ar agor 9yb-5yp ac mae angen tocyn maes parcio arnoch i adael.
Aelodau RSPB - AM DDIM
Os nad yn aelodau - £3
Ni chaniateir cŵn yn y digwyddiad hwn.