Tynnwch ysbrydoliaeth o’r amgylchoedd syfrdanol yma yn RSPB Ynys Lawd a dysgwch sut i greu darlun dyfrlliw hardd. Byddwch yn cael eich arwain gan ein aelod tîm ac artist talentog lleol Lora. Dim ots os ydych yn artist profiadol, neu’n rhywun sydd newydd ddechrau arni, byddwn yn teilwra’r profiad i’ch siwtio chi.