Dathlwch Ddiwrnod Rhyngwladol Corws y Wawr yn RSPB Conwy!
Deffrowch gyda'r bywyd gwyllt a phrofwch symffoni gwanwyn anhygoel byd natur. Ymunwch â’n tywyswyr gwybodus am daith hamddenol o amgylch y warchodfa, gan ddarganfod yr amrywiaeth anhygoel o ganeuon adar sy’n rhan o gorws y wawr. Bydd diodydd poeth a bap brecwast* yn cloi bore cofiadwy.
Angen bwcio. Aelodau £21.00, di-aelod £26.00.
Cwrddwch yn y maes parcio y tu allan i'r ganolfan ymwelwyr 10 munud cyn i'r digwyddiad ddechrau, a dewch â'ch cardiau aelodaeth gyda chi. Dewch â'ch sbienddrych eich hun os oes gennych rai, a dewch wedi gwisgo'n addas i ddechrau'n gynnar pan allai fod braidd yn oer. Bydd toiledau ar agor cyn dechrau'r daith gerdded.
*Mae opsiynau llysieuol, fegan a GF ar gael.