Join & Donate RSPB home page Reserve information Get involved Events by region Scotland Northern Ireland Northern England The Midlands Cymru/Wales Eastern England South East England South West England Browse all events

Saffari Adar Môr

Chwilio am antur? Galw ar bob fforiwr, ymunwch â ni yn RSPB Ynys Lawd am Saffari Adar Môr!   Gyda chymorth tywysydd profiadol, byddwn yn mentro i lawr i Dŵr Ellin lle byddwn yn mwynhau golygfa anhygoel o’n nythfa adar môr! O wylogod i lurs mae digon i’w weld. Dewch a'ch sbienddrych, bydd eu hangen arnoch ar gyfer yr ail ran, oherwydd byddwn yn chwilio am Balod! Bydd ein tywysydd yn mynd â chi i lawr y grisiau tuag at y goleudy, ond peidiwch â phoeni ni fyddwn yn mynd yr holl ffordd i lawr, dim ond hanner ffordd gan ei fod yn fan perffaith i wylio ein clowniau pluog!   Sylwch fod y digwyddiad yn dibynnu ar y tywydd.  

Cwestiynau Cyffredin   Beth ddylwn i ddod i'r digwyddiad? Dylid gwisgo dillad ac esgidiau awyr agored addas. Dewch â diod a/neu fyrbryd gyda chi ar gyfer y daith gerdded os y hoffech. Bydd y caffi hefyd ar agor os ydych chi eisiau diod boeth neu oer a thamaid i'w fwyta wedyn. Sbienddrych.  

Beth yw’r oedran lleiaf ar gyfer y digwyddiad? Oherwydd hyd y teithiau cerdded, nid ydym yn eu hargymell ar gyfer plant dan 4 oed.  

Pa leoedd parcio a chyfleusterau sydd ar gael yn y warchodfa? Yma yn RSPB Ynys Lawd mae gennym dri maes parcio ar wahân, gyda pheiriant tocynnau ym mhob un. Mae raciau beiciau ar gael yn y Ganolfan Ymwelwyr yn ogystal â chaffi, toiledau a chyfleusterau newid babanod. Mae parcio yn £2 yr awr, neu £6 y dydd.  Mae parcio am ddim i aelodau’r RSPB. Os ydych yn aelod, a allwch arddangos eich cerdyn aelodaeth.  

A ganiateir cŵn ar y daith gerdded? Caniateir cŵn sy’n ymddwyn yn dda ar y daith gerdded, ond rhaid eu cadw ar dennyn byr bob amser.  

Polisi ad-daliad. Weithiau y mae angen i ni ganslo'r digwyddiad, ond er hyn byddwn yn rhoi ad-daliad llawn i chi. Pe baech yn dymuno canslo, rhoddir ad-daliad llawn os byddwn yn derbyn tri diwrnod o rybudd neu fwy. I ganslo, ffoniwch ni ar 01407 762 100.  

Tocynau. Ar ôl cyrraedd y Ganolfan Ymwelwyr bydd angen i chi ddangos naill ai eich e-bost cadarnhau neu docyn wedi'i argraffu os gwelwch yn dda. Dylai aelodau'r RSPB ddod â'u cardiau aelodaeth gyda nhw hefyd.   Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, anfonwch e-bost atom yn south.stack@rspb.org.uk neu ffoniwch ni ar 01407 762 100.

Terms & conditions Cookie policy Privacy policy Charter and Statutes Modern Slavery Act